Objectives
This project will be the first of its kind to introduce the Damara, which is a breed of fat-tail sheep, to the UK market place and aims for Wales to be pioneering in the development of this breed of sheep. This three-year project, involving two farmers from North Wales, aims to investigate the feasibility of rearing both pure Damara and cross breeding them with Romney, Texel cross, and Lleyn cross ewes and monitor how well they adapt to typical milder and wetter Welsh conditions.
Objectives
Y prosiect hwn fydd y cyntaf o'i fath i gyflwyno'r Damara, sef brid o ddefaid cynffon-dew, i farchnad y DU a'i nod yw cael Cymru i arloesi yn natblygiad y defaid hyn. Mae dau ffermwr o Ogledd Cymru yn rhan o’r prosiect, a fydd yn para am dair blynedd. Y nod yw canfod pa mor ymarferol yw magu defaid Damara pur neu groesfridio’r defaid gyda mamogiaid Romney, croes-Texel a chroes-Llŷn. Caiff y defaid eu monitro i weld pa mor dda y maent yn addasu i’r tywydd llai poeth a gwlypach sydd gennym yng Nghymru.
Activities
Project Plan
Damara embryos and semen will be imported in 2019.
A group of Romney and Texel cross ewes will be used for embryo transfer in year 2 and 3 (pure breed lambs).
A group of Romney, Texel cross and Lleyn cross ewes will be artificially inseminated in year 2 and 3 (cross breed lambs)
Ease of lambing, birth weight, eight week weight and weaning weight along with health and physical characteristics will be monitored over the two years for both batches of lambs and compared to a control group of Lleyn ewes.
Activities
Cynllun y Prosiect
Embryonau a semen Damara yn cael eu mewnforio yn 2019.
Grŵp o famogiaid croes-Romney a chroes-Texel yn cael eu defnyddio ar gyfer trosglwyddo embryonau ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 3 (ŵyn pur).
Grŵp o famogiaid Romney, croes-Texel a chroes-Llŷn yn cael eu semenu’n artiffisial ym mlwyddyn 2 a mlwyddyn 3 (ŵyn croesfrid)
Rhwyddineb ŵyna, pwysau geni, pwysau wyth-wythnos a phwysau diddyfnu’r ddau grŵp, ynghyd â nodweddion eu hiechyd a’u cyrff, yn cael eu monitro drwy gydol y ddwy flynedd er mwyn eu cymharu â grŵp safonol o famogiaid Llŷn.
Project details
- Main funding source
- Rural development 2014-2020 for Operational Groups
- Rural Development Programme
- 2014UK06RDRP004 United Kingdom - Rural Development Programme (Regional) - Wales
Ort
- Main geographical location
- Gwynedd
EUR 47 011.00
Total budget
Total contributions from EAFRD, national co-financing, additional national financing and other financing.
1 Practice Abstracts
Fat-tailed sheep are a domestic breed known for their large ‘fatty’ tails and hindquarters. These breeds of sheep are commonly found in arid, desert-like areas such as the Middle East, Northern Africa, Northern India and Central Asia. They are renowned for being able to thrive in harsh environments due to their ability to gain weight despite a diet that is nutritionally poor. The unique tasting meat and fat from these sheep are used in traditional Arabic cooking and is in high demand by ethnic groups here in the UK. The eating qualities of meat from fat-tailed sheep is said to be more tender, leaner and juicy than their thin-tailed cousins. It is also found that their meat has a higher Omega-3 to Omega-6 fatty acid ratio and lower in saturated fat which are favourable qualities for human health.
With over 1,000 sheep breeds recognised in the world, and approximately 60 farmed in the UK according to the British Wool Board, there is scope to look at more interesting genetic material as a way of diversifying from the conventional market.
The outcome of this project will demonstrate whether fat-tailed sheep can successfully be raised in Wales, provide indicative figures for growth rates and investigate the potential market size and demand for this highly valued niche product.
Mae defaid cynffon-dew yn hawdd eu hadnabod am fod eu cynffonnau a’u chwarter ôl yn fawr ac yn dew. Fel arfer, bydd y defaid hyn i'w cael mewn mannau cras ac anial fel y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica, Gogledd India a Chanol Asia. Gallant ffynnu dan amodau anodd oherwydd eu gallu i ennill pwysau er gwaethaf diet sydd heb fawr o faetholion. Defnyddir y cig a'r braster unigryw o'r defaid hyn mewn bwyd Arabaidd traddodiadol ac mae galw mawr amdano gan grwpiau ethnig yn y DU. Dywedir bod cig y defaid cynffon-dew yn llai bras ac yn fwy brau a suddlon na chig defaid â chynffonau tenau. Canfuwyd hefyd bod gan eu cig fwy o asid brasterog Omega-3 nag Omega-6 a’i fod yn cynnwys llai o fraster dirlawn – ac mae hynny’n dda i iechyd y sawl sy’n bwyta’r cig.
O ystyried bod dros 1,000 o fridiau defaid yn cael eu cydnabod yn y byd, a thua 60 o fridiau’n cael eu ffermio yn y DU, yn ôl Bwrdd Gwlân Prydain, mae lle i edrych ar ddeunydd genetig mwy diddorol er mwyn arallgyfeirio oddi wrth y farchnad gonfensiynol.
Bydd canlyniad y prosiect hwn yn dangos a oes modd magu defaid cynffondew yn llwyddiannus yng Nghymru. Bydd yn darparu ffigurau ar gyfer cyfraddau twf ac yn ceisio canfod pa mor fawr y gallai’r farchnad a'r galw fod am y cynnyrch arbenigol gwerthfawr hwn.
Contacts
Project coordinator
-
Geraint Hughes
Project coordinator
Project partners
-
Bedwyr Jones
Project partner
-
Peter Williams
Project partner
-
Tricia Sutton
Project partner