Objectives
Land management and farming activities are both great resources that can sequester carbon from the atmosphere. Farmers are also responsible for the protection of the greatest carbon stock we have – the soil. Climate change is an evolving challenge with consumers and those in the supply chain active in the debate and seeking solutions with considerable pressure and challenge being placed upon farmers. Government policies and targets are also changing and green house gasses (GHG) reduction targets have now been replaced by a ‘net zero’ target for the UK by 2050 and the NFU setting a 2040 target for ‘net zero’ for farming.
Objectives
Mae gweithgareddau ffermio a rheoli tir yn adnoddau gwych sy’n gallu dal a storio carbon o’r atmosffer. Mae ffermwyr hefyd yn gyfrifol am warchod y stoc garbon fwyaf sydd gennym – y pridd. Mae newid hinsawdd yn her sy’n esblygu gyda defnyddwyr a’r rheini sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi yn cyfranogi’n eiddgar yn y ddadl ac yn chwilio am atebion, gyda chryn bwysau a her yn cael eu rhoi ar ffermwyr. Mae polisïau a thargedau’r Llywodraeth hefyd yn newid ac mae’r targedau lleihau nwyon tŷ gwydr wedi cael eu disodli gan darged ‘sero-net’ ar gyfer y Deyrnas Unedig erbyn 2050 ac mae’r NFU wedi gosod 2040 fel targed ar gyfer ‘sero-net’ ym maes ffermio.
Activities
The key elements this project aims to address are:
1) Understanding what net zero is and what it means for farmers in Wales
2) Creating the baseline from which action can be taken and measured
3) Improving evidence to generate a clear narrative that describes the valuable role that farming plays in meeting climate challenge and environmental priorities.
The 6 farmers from the Brecon area involved in the project represent a variety of farm enterprises including crop production, dairy, beef and lamb systems. They will work closely with Bangor University to assess their GHG emissions and sequestrations to determine the current position (baseline) in relation to ‘net zero’ targets.
Activities
Y prif elfennau y prosiect hwn yw ceisio:
1) Deall beth yw sero-net a beth mae’n ei olygu i ffermwyr yng Nghymru
2) Canfod y llinell sylfaen ar gyfer gweithredu a mesur y camau gweithredu hynny
3) Sicrhau bod gwell tystiolaeth ar gael er mwyn llunio naratif clir sy’n disgrifio’r rôl werthfawr y mae ffermio yn ei chwarae i gyflawni’r blaenoriaethau amgylcheddol a her yr hinsawdd.
Mae’r 6 ffermwr o ardal Aberhonddu yn rhedeg busnesau fferm amrywiol, gan gynnwys systemau cynhyrchu cnydau, llaeth, cig eidion a chig oen. Byddant yn gweithio’n agos â Phrifysgol Bangor i asesu eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’u lefelau dal a storio carbon er mwyn canfod y sefyllfa bresennol o safbwynt targedau ‘sero-net’.
Project details
- Main funding source
- Rural development 2014-2020 for Operational Groups
- Rural Development Programme
- 2014UK06RDRP004 United Kingdom - Rural Development Programme (Regional) - Wales
Location
- Main geographical location
- Powys
EUR 47 058.00
Total budget
Total contributions from EAFRD, national co-financing, additional national financing and other financing.
1 Practice Abstracts
The 6 farmers from the Brecon area involved in the project represent a variety of farm enterprises including crop production, dairy, beef and lamb systems. They will work closely with Bangor University to assess their GHG emissions and sequestrations to determine the current position (baseline) in relation to ‘net zero’ targets.
This project will hopefully provide farmers with a more accurate understanding of a commercial farm carbon balance and what can be done within agriculture to contribute towards achieving a net zero target.
Mae’r 6 ffermwr o ardal Aberhonddu sy’n rhan o’r prosiect yn rhedeg busnesau fferm amrywiol, gan gynnwys systemau cynhyrchu cnydau, llaeth, cig eidion a chig oen. Byddant yn gweithio’n agos â Phrifysgol Bangor i asesu eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’u lefelau dal a storio carbon er mwyn canfod y sefyllfa bresennol (y llinell sylfaen) o safbwynt targedau ‘sero-net’.
Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ffermwyr o’r cydbwysedd carbon ar fferm fasnachol a beth ellir ei wneud ym maes amaethyddiaeth i gyfrannu at gyrraedd targed sero-net.
Contacts
Project coordinator
-
Hugh Martineau
Project coordinator